Mae dyn o ganolbarth Lloegr wedi’i gael yn euog o geisio mewnforio ffrwydron oddi ar y we dywyll, gyda’r bwriad o beryglu bywyd.

Fe gafodd Gurtej Randhawa ei arestio ym mis Mai eleni, wedi iddo dderbyn pecyn yn y post yr oedd o’n gredu oedd yn ddyfais ffrwydrol y gallai ei rheoli â rimot.

Roedd y dyn 19 oed wedi ceisio prynu’r ddyfais ar gyfer ei gosod o dan gerbyd, ond roedd asiantaeth gwrth-frawychol yr NCA wedi rhwystro’r pecyn hwnnw a rhoi dyfais ffug yn y bocs gafodd ei ddelifro i’w gartref yn Wolverhampton.

Fe blediodd Gurtej Randhawa yn euog i geisio mewnforio ffrwydron.

Fe gafodd dwy ddynes, 45 a 18 oed, eu harestio yr un pryd ag o, ond fe gawson nhw eu rhyddhau’n ddi-gyhuddiad.