Gall toriadau yng ngwasanaethau trafnidiaeth Llundain arwain at 1,400 o weithwyr yn colli eu swyddi, yn ôl undebau.

Daeth hyn i’r amlwg yn dilyn cyfarfod rhwng Undeb Cenedlaethol y Gweithwyr Rheilffordd, Morwrol a Thrafnidiaeth (RMT), a chorff Trafnidiaeth Llundain (TfL).

Mae’n debyg bod gwariant ar drafnidiaeth yn cael ei gwtogi gan £5.5 biliwn erbyn 2021, ac mi fydd y toriadau yma yn effeithio peirianwyr a gweithwyr rheilffyrdd tanddaearol yn bennaf.

Mae’r RMT wedi beirniadu’r toriadau a’u hamseriad – byddan nhw’n cyd-daro â’r dyddiad pan fu farw 31 o bobol yng ngorsaf King’s Cross 30 mlynedd yn ôl.

Gorchymyn

“Mae’r RMT yn gorchymyn nad yw’r toriadau’n cael eu gweithredu, mor agos i ddyddiad tân King’s Cross,” meddai Ysgrifennydd Cyffredinol yr RMT, Mick Cash.

“Byddai’n ofnadwy os wnawn ni dorri yn ôl o ran diogelwch. Mae’n rhaid i’r Maer sefyll i fyny dros TfL, a gorchymyn adferiad y grant cyfalaf llawn ac ariannu iawn gan lywodraeth ganolog i’r Tiwb.”