Mae Aelodau Seneddol Llafur benywaidd wedi beirniadu cynlluniau “siomedig” a gafodd eu cytuno gan arweinwyr y pleidiau i gyflwyno system gwynion newydd ar gyfer staff y Senedd yn dilyn honiadau o aflonyddu rhywiol yn San Steffan.

Roedd y Prif Weinidog Theresa May wedi cwrdd ag arweinwyr y pleidiau ddoe i benderfynu ar y system newydd a fydd yn dod i rym y flwyddyn nesaf.

Fe fydd llinell ffon ar gyfer cwynion yn cael ei uwchraddio erbyn diwedd y mis gan roi’r cyfle i bobl gael gwasanaeth wyneb yn wyneb.

Ond mae ASau Llafur sydd wedi arwain yr ymgyrch i fynd i’r afael a cham-drin rhywiol ac aflonyddu yn dweud nad yw’r diwygiadau yn mynd yn ddigon pell.

Dywedodd Jess Phillips bod y cynlluniau yn “hollol siomedig.”

Ond mae Theresa May yn mynnu bod y diwygiadau yn “gam pwysig ymlaen”.