Mae Prif Weinidog y Deyrnas Unedig wedi ymateb i ryddhau dogfennau ‘Papurau Paradwys’ trwy fynnu bod yn rhaid i bob unigolyn a busnes “dalu trethi sy’n ddyledus”.

Mae’r dogfennau – sydd wedi dod i law’r wasg – yn cynnwys manylion ariannol ffigyrau amlwg, ac yn dangos bod y Frenhines wedi buddsoddi £10 miliwn mewn cronfeydd trethi dramor.

Wrth annerch cynhadledd flynyddol Cydffederasiwn Diwydiant Prydain (CBI), dywedodd Theresa May bod y Llywodraeth eisoes yn sicrhau bod trethi’n cael eu talu.

“Rydym eisoes wedi cymryd camau i sicrhau tryloywder yn nhiriogaethau tramor Prydain ac rydym yn parhau i weithio â nhw,” meddai wrth drafod cronfeydd trethi dramor.

Ymchwiliad cyhoeddus

Mae’r Blaid Lafur wedi galw am ymchwiliad cyhoeddus yn sgil datgelu’r dogfennau, er mwyn adfer ffydd y cyhoedd yn y system drethi.

“Gofynnom am ymchwiliad cyhoeddus dros osgoi trethi 18 mis yn ôl, ac rydym ni wir ei angen yn awr er mwyn adfer ffydd,” meddai’r Canghellor Cysgodol, John McDonell wrth BBC Radio 4.