Mae rhagor o wybodaeth wedi dod i law am ymddygiad rhywiol rhai o wleidyddion amlycaf San Steffan, a honiadau newydd wedi cael eu gwneud.

Ymddiswyddodd yr Ysgrifennydd Amddiffyn, Syr Michael Fallon yr wythnos ddiwethaf gan ddweud nad oedd ei ymddygiad wedi cyrraedd y safonau priodol sy’n ddisgwyliedig gan aelod o’r Llywodraeth.

Bryd hynny, fe ddaeth i’r amlwg ei fod e wedi cyffwrdd â choes newyddiadurwraig.

Erbyn hyn, mae Jane Merrick wedi cysylltu â Stryd Downing yn honni ei fod e wedi ceisio’i chusanu yn 2003.

Dywedodd hi wrth bapur newydd yr Observer fod hynny wedi digwydd pan oedd hi’n ohebydd 29 oed, a’i bod hi’n teimlo “cywilydd”.

“A oeddwn i’n euog o fod wedi ei gamarwain drwy yfed gyda fe? Ar ôl blynyddoedd o gael diod gyda chynifer o ASau eraill sydd heb ymddwyn yn amhriodol tuag ata’ i, dw i’n gwybod nawr nad oeddwn i.”

Cusan

Ac mae honiadau yn erbyn y Chwip Ceidwadol, Chris Pincher.

Yn ôl y Mail on Sunday, mae e wedi’i gyhuddo o geisio cusanu’r rhwyfwr Olympaidd ac ymgyrchydd gwleidyddol, Alex Story.

Mae Chris Pincher wedi ymddiheuro am y digwyddiad.

Damian Green

Yn y cyfamser, mae honiadau bod delweddau pornograffig wedi cael eu darganfod ar gyfrifiadur yn swyddfa’r Prif Ysgrifennydd Gwladol, Damian Green.

Mae e wedi gwadu honiadau’r cyn-bennaeth heddlu, Bob Quick, sydd wedi’u hadrodd yn y Sunday Times, gan ddweud eu bod nhw’n “gwbl anwir” ac yn dod o “ffynhonnell nad oes modd ymddiried ynddi”.

Yn ôl cyn-Gomisiynydd Cynorthwyol Heddlu Llundain, cafodd y delweddau eu darganfod yn 2008 wrth iddyn nhw ymchwilio i wybodaeth oedd yn cael ei chyhoeddi ar gam gan aelodau’r llywodraeth.