Delw o’r cyfarwyddwr ffilm Harvey Weinstein fydd yn cael ei llosgi yn ystod dathliadau Guto Ffowc yn Swydd Gaint eleni.

Mae Cymdeithas Coelcerthi Edenbridge yn llosgi delw o berson adnabyddus bob Noson Guto Ffowc.

Mae disgwyl torf o fwy na 10,000 o bobol ar gyfer y sioe sy’n dechrau am 6.30pm gyda gorymdaith drwy’r dref.

Fe fydd y ddelw’n cael ei llosgi cyn i’r sioe tân gwyllt ddechrau.