Fe fydd rhaglen arbennig o weithgareddau i hybu’r iaith Wyddeleg dros y flwyddyn nesaf yn cael ei chyhoeddi yn Killarney yn Iwerddon heddiw.

Mae’n 125 o flynyddoedd eleni ers adfywio gŵyl Bliain na Gaeilge, digwyddiad sy’n para blwyddyn gyfan ac sy’n dathlu’r iaith, tynnu sylw at heriau ei chynnal ac yn rhoi pwyslais ar sicrhau bod yr iaith yn weladwy drwy Iwerddon.

Dywedodd Dr Niall Comer, Llywydd Conradh na Gaeilge (fforwm yr iaith Wyddeleg), fod y digwyddiad “yn gyfle i ddathlu popeth sydd wedi’i gyflawni i’r iaith ers 1893, ac yn gyfle i roi’r Wyddeleg a’r heriau y mae’r iaith yn eu hwynebu heddiw wrth galon y sgwrs genedlaethol”.

“Mae’n wych meddwl bod grwpiau o amgylch y byd yn cymryd rhan ac yn trefnu digwyddiadau ar gyfer Bliain na Gaeilge 2018; rhaid canmol yn fawr y grwpiau hynny sy’n gweithio mor galed i wneud yr ŵyl yn llwyddiannus ar draws y byd. Gobeithiwn weld miloedd o ddigwyddiadau’n cael eu trefnu drwy gydol y flwyddyn.”

€450,000 i’r digwyddiadau

Mae Prif Chwip a Gweinidog yr iaith Wyddeleg yn Llywodraeth Iwerddon, Joe McHugh wedi croesawu’r newyddion bod Foras na Gaeilge, corff sy’n hybu’r iaith, yn rhoi €450,000 tuag at y digwyddiad.

“Rwy wrth fy modd fod yr arian hwn yn ei le i gefnogi Bliain na Gaeilge,” meddai. “Bydd y flwyddyn i ddod yn gyfle gwych i ddathlu ein hiaith a’n diwylliant.

“Mae rhaglen eang o raglenni eisoes yn cael ei threfnu ar draws y wlad a’r byd. Byddwn yn annog pawb i gymryd rhan, o’r rhai sy’n rhugl i’r rhai sydd â ‘cupla focal’ (ychydig o eiriau) yn unig.”

Ymhlith y mudiadau sy’n cymryd rhan yn y flwyddyn o ddigwyddiadau mae’r GAA – neu Gymdeithas Chwaraeon Gwyddelig.

‘Y Wyddeleg yn ganolog i bopeth’

Dywedodd Llywydd y GAA, Aogán Ó Fearghaíl: “Mae’r iaith Wyddeleg yn ganolog i bopeth rydym yn ei wneud yn y GAA.

“Ar gyfer Bliain na Gaeilge, bydd Lá Gaelach (sesiwn iaith Wyddeleg) yn Croke Park i ddathlu popeth Gwyddeleg ym mis Mawrth, a bydd popeth trwy gyfrwng y Wyddeleg ar y diwrnod.”

Ychwanegodd y bydd seminar ar Chwefror 10 yn asesu rôl y GAA yn y broses o hybu’r iaith.

Bydd Bliain na Gaeilge yn cael ei lansio’n ffurfiol ar Nos Calan.