Mae arbenigwyr yn darogan y bydd cyfraddau llog yn cael eu codi am y tro cyntaf ers degawd heddiw.

Y disgwyl yw y bydd Pwyllgor Polisi Ariannol Banc Lloegr yn cynyddu’r gyfradd o 0.25% i 0.5% – y codiad cyntaf ers Gorffennaf 2007.

Daw’r penderfyniad yn sgil sawl rhybudd gan Lywodraethwr Banc Lloegr, Mark Carney, bod angen codi cyfraddau llog i fynd i’r afael â chwyddiant sydd wedi’i achosi gan Brexit.

Mae unrhyw godiad yn sicr o gael effaith negyddol ar fenthycwyr morgeisi, ond mae pobol sydd yn arbed arian ac sydd wedi eu heffeithio gan chwyddiant, yn debygol o groesawu’r cynnydd.