Mae disgwyl i’r Prif Weinidog, Theresa May, benodi Ysgrifennydd Amddiffyn newydd heddiw (Tachwedd 2) yn sgil ymddiswyddiad Syr Michael Fallon yn hwyr ddydd Mercher.

Mae Michael Fallon wedi’i gyhuddo o gyffwrdd pen-glin y newyddiadurwraig, Julia Hartley-Brewer, yng nghynhadledd y Ceidwadwyr 2002.

Ond mae ef ei hun wedi mynd gam ymhellach trwy awgrymu fod yna bethau eraill yn ymwneud â’i ymddygiad “flynyddoedd yn ol” sy’n syrthio’n brin o’r “safonau uchel” sy’n ddisgwyliedig gan aelodau o’r lluoedd arfog y mae’n gyfrifol amdanyn nhw.

Mae rhai sylwebwyr wedi awgrymu mai dyma’r cyntaf mewn cyfres o ddiswyddiadau allai siglo cabinet Theresa May, ac mae dau weinidog, Damian Green a Mark Garnier, eisoes yn destun ymchwiliad.

Cyfrifoldeb

Bydd Theresa May yn cynnal cyfarfod ag arweinyddion eraill San Steffan ddydd Llun (Tachwedd 6) er mwyn trafod cynlluniau i fynd i’r afael ag aflonyddu rhywiol.

“Mae gennym gyfrifoldeb i sicrhau bod pawb sydd yn dod yma i gyfrannu i fywyd cyhoeddus yn cael eu trin â pharch,” meddai yn ystod Cwestiynau’r Prif Weinidog.