Mae bachgen 16 oed wedi’i arestio ar amheuaeth o lofruddio bachgen arall yn ei arddegau a gafodd ei gludo i’r ysbyty ar ol cael ei ganfod wedi brifo ar stryd yng nghanol dinas.

Fe gafodd y dioddefwr, 17 oed, a bachgan arall o’r un oed, ill dau eu cludo i’r ysbyty ar ol cael eu hanafu yng Nghaerlyr ddydd Mawrth (Hydref 31).

Fe gafodd parafeddygon eu galw tua 9.15yh.

Mae Heddlu Sir Caerlyr wedi cadarnhau fod un o’r bechgyn 17 oed wedi marw toc ar ol cyrraedd yr ysbyty, a bod ei farwolaeth yn cael ei hystyried yn un amheus.

Mae bachgen 16 oed wedi’i ddwyn i’r ddalfa, dan amheuaeth o lofruddiaeth ac o geisio llofruddio. Mae’n dal i gael ei holi gan yr heddlu.