Mae carcharor sydd yn pryderu am ei iechyd wedi cyflwyno achos gerbron y Goruchaf Lys, gyda’r nod o wneud ysmygu mewn carchardai yn drosedd.

Mae’r troseddwr rhyw, Paul Black, o garchar yn Sir Gaerhirfryn, yn dioddef ystod o broblemau  iechyd difrifol ac yn mynnu ei fod â’r hawl i gael ei amddiffyn rhag risgiau mwg ail-law.

Dadl Paul Black yw dylai bod y Ddeddf Iechyd 2006 – sydd yn rhwystro pobol rhag ysmygu mewn mannau a gweithleoedd cyhoeddus – yn weithredol mewn carchardai.

Er i Uchel Lys ddyfarnu o’i blaid yn 2015, apeliodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn erbyn y penderfyniad gan ddadlau nad oes ganddyn nhw ymrwymiad diamod â’r ddeddf.

Carchardai di-fwg

“Ers hir, rydym wedi ymrwymo i sicrhau amgylchedd di-fwg yn ein carchardai ac mi fydd hyn yn cael ei gyflwyno dros gyfnod hir,” meddai llefarydd ar ran y Gwasanaeth Carchardai.

“Bydd hyn yn lleihau’r risg o fwg ail-law i staff a charcharorion, ac mi fydd carchardai yn ddi-fwg pan fydd hynna’n briodol.”

Mae’r gwrandawiad wedi’i ohirio tan heddiw (dydd Mercher, Tachwedd 1).