Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi datgan eu bod yn bwriadu cynnal adolygiad o doriadau i gymorth cyfreithiol yng Nghymru a Lloegr.

Mewn datganiad ysgrifenedig dywedodd yr Arglwydd Ganghellor, David Lidington, y byddai’r adolygiad yn cael ei arwain gan y Llywodraeth ac yn dod i ben cyn diwedd haf 2018.

Mae’n debyg bydd yr adolygiad yn mynd i’r afael â sawl maes gan gynnwys newidiadau i gymorth cyfreithiol mewn achosion teuluoedd, sifil a throseddol.

Nod cymorth cyfreithiol yw cynorthwyo pobol i dalu am gostau achosion llys – mae unigolion sydd yn medru profi eu bod methu talu’r costau yma neu sy’n wynebu amgylchiadau hynod, yn gymwys.

Cafodd cymorth cyfreithiol ei chyflwyno ynghyd â’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a diwygiadau eraill yn dilyn yr Ail Ryfel Byd.