Mae un o feirniaid newydd rhaglen bobi’r The Great British Bake Off wedi ymddiheuro am ddatgelu enw’r enillydd oriau cyn i’r ffeinal gael ei ddarlledu heno.

 

Mae enw’r enillydd yn dew dros y cyfryngau cymdeithasol erbyn hyn wedi i Prue Leith longyfarch yr enillydd mewn neges ar Twitter cyn ei dynnu i lawr yn syth.

 

Yn ei neges mi ddywedodd – “Wnaeth neb ddweud wrthyf y byddai beirniadu ffeinal y GBBO mor emosiynol. Roeddwn i eisiau iddyn nhw gyd i ennill,” meddai cyn llongyfarch ac enwi’r enillydd.

 

Gwahaniaeth amser

 

Mae Prue Leith wedi dweud wrth Asiantaeth y Wasg (PA) ei bod yn Bhutan yn ne Asia ar hyn o bryd ac wedi drysu o ganlyniad i’r gwahaniaeth amser.

 

“Dw i mewn gormod o stad i siarad amdano,” meddai.

 

Dyma’r tro cyntaf i Prue Leith feirniadu’r gyfres ar y cyd â Paul Hollywood wedi i’r gyfres symud o’r BBC i Channel 4 gyda Noel Fielding a Sandi Toksvig yn cyflwyno.