Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cyhoeddi y bydd yn cyfyngu ar yr arian y gall pobol fetio ar beiriannau hapchwarae mewn ymdrech i fynd i’r afael â gamblo.
Bydd y nifer uchaf mae modd ei fetio mewn math penodol o beiriant gamblo yn cael ei gwtogi i rhwng £50 a £2.
Ar hyn o bryd mae modd gamblo hyd at £100 ar beiriannau hap chwarae (FOBTs) pob 20 eiliad sydd yn golygu bod modd colli £18,000 bob awr.
Mae effaith negyddol y peiriannau wedi cael ei gymharu ag effaith cyffuriau.
Mae gweinidogion hefyd wedi cyhoeddi y byddan nhw’n cynnal ymgynghoriad ynglŷn â dulliau eraill o fynd i’r afael â’r FOBTs – penderfyniad “hynod siomedig” yn ôl yr Aelod Seneddol Llafur Tom Watson.
“Gwastraffu cyfle arall”
“Mae gweinidogion wedi gwastraffu cyfle arall i fynd i’r afael â FOBTs – dyfeisiau caethiwus sydd yn medru achosi gwir niwed i unigolion, teuluoedd a’u cymunedau,” meddai dirprwy-Arweinydd Llafur, Tom Watson.
“Wedi misoedd o ohiriadau maen nhw wedi penderfynu cynnal ymgynghoriad arall. Ac yn lle gweithredu i fynd i’r afael ag hysbysebion gamblo, ar y teledu ac ar-lein, mae’r Llywodraeth wedi cymryd camau annigonol.”