Bydd trafodaethau yn parhau yn Stormont heddiw dros gytundeb rhannu grym, wedi i Ysgrifennydd Gogledd Iwerddon ganiatáu diwrnod ychwanegol o drafod.
Roedd James Brokenshire wedi dweud y byddai’n rhaid i bleidiau Stormont daro dêl erbyn diwedd ddydd Llun (Hydref 30) ond methodd gweinidogion â dod i gytundeb.
Mae’r Ysgrifennydd eisoes wedi rhybuddio y bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn dechrau gosod cyllideb y corff ddeddfu os na fydd gweinidogion yn llunio cytundeb ysgrifenedig.
Er na fu’r pleidiau yn llwyddiannus nos Lun mae James Brokenshire wedi dweud bod Stormont cam yn agosach at ddod i gytundeb.
“Camau pellach ymlaen”
“Mae’r pleidiau wedi cymryd camau pellach ymlaen,” meddai. “Maen nhw wedi anfon ceisiadau ychwanegol i Lywodraeth y Deyrnas Unedig sydd yn rhaid i ni eu hystyried.”
“O ystyried hyn, dw i’n credu ei bod yn iawn fy mod yn gohirio’r asesiad ynglŷn â chyflwyno deddfwriaeth i’r senedd yr wythnos hon i alluogi ffurfio’r adran weithredol.”