Mae gweinidogion y Cabinet yn paratoi i drafod y posibilrwydd o adael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb.

Daw hyn wrth i Fanc Lloegr rybuddio y byddai gadael heb gytundeb masnach yn rhoi 75,000 o swyddi yn y sector ariannol yn y fantol, yn ôl adroddiadau.

Mae disgwyl i Brexit for ar frig agenda’r trafodaethau yn y cyfarfod rhwng gweinidogion y Cabinet a’r Prif Weinidog ,Theresa May gyda phob posibilrwydd yn cael ei ystyried wrth asesu’r cynnydd sydd wedi bod yn y broses.

Mae disgwyl i’r Ysgrifennydd Brexit David Davis arwain y trafodaethau bore ma.

Mae’r Llywodraeth yn gobeithio y bydd arweinwyr yr UE, sy’n cwrdd ym mis Rhagfyr, yn cytuno y gallai trafodaethau masnach ddechrau.

Yn y cyfamser mae ffigurau blaenllaw ym Manc Lloegr yn amcangyfrif y byddai diswyddiadau yn debygol yn enwedig os yw’r Deyrnas Unedig yn gadael yr UE heb drefniadau arbennig ar gyfer y sector, yn ôl y BBC.