Mae Llefarydd Tŷ’r Cyffredin, John Bercow, wedi herio’r pleidiau gwleidyddol i wynebu “eu cyfrifoldebau” wrth iddo alw am newid yn San Steffan yn sgil honiadau “pryderus” am “ddiwylliant o aflonyddu rhywiol”.

Dywedodd John Bercow y dylid ystyried galwadau Theresa May am wasanaeth cymodi a system gwynion mwy cadarn ar gyfer Aelodau Seneddol a staff.

Mewn datganiad i Aelodau Seneddol dywedodd bod y drefn bresennol yn annigonol a bod yn rhaid i bob plaid adolygu eu prosesau.

Mae hefyd wedi galw ar Bwyllgor Safonau Ty’r Cyffredin i gryfhau’r cod ymddygiad ar gyfer ASau i gynnwys rheol newydd fod yn rhaid iddyn nhw “drin pawb sy’n gweithio yn y Senedd gydag urddas a pharch.”