Cynyddodd lefelau carbon diocsid (CO2) yn yr atmosffer i’w lefelau uchaf erioed y llynedd, yn ôl asiantaeth dywydd y Cenhedloedd Unedig.

Yn ôl Sefydliad Meteoroleg y Byd (WMO), mae angen mynd ati ar frys i gwtogi CO2 ac allyriadau eraill er mwyn osgoi “cynnydd peryglus yn nhymheredd” y ddaear.

Mae’r corff yn awgrymu bod targedau presennol i fynd i’r afael â chynhesu byd-eang yn annigonol ac wedi dweud ein bod yn “mynd ar hyd y trywydd anghywir.”

Mae bwletin diweddaraf y WMO yn dweud mai cyfuniad o weithgarwch dynol a ffenomen forol El Niño sydd wedi achosi’r cynnydd.

Cododd y lefel o nwyon CO2 yn yr aer o 400 yn 2015 i 403.3 y llynedd.