Bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn dechrau gosod cyllideb Gogledd Iwerddon heddiw os na fydd gwleidyddion Stormont yn llwyddo i ddod i gytundeb dros rannu grym.

Methodd y DUP a Sinn Fein a sefydlu cytundeb wythnos ddiwethaf, a bellach mae gan bleidiau Gogledd Iwerddon tan  ddiwedd ddydd Llun (Hydref 30) i ddod i gytundeb.

Mae Stephen Farry o blaid Alliance wedi erfyn ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i ystyried opsiynau eraill cyn ymyrryd – un opsiwn yw sefydlu clymblaid wirfoddol yn Stormont.

Ar y llaw arall, mae Arweinydd plaid yr SDLP (Plaid y Democratiaid Cymdeithasol a Llafur), Colum Eastwood, wedi mynnu y bydd ei blaid yn gwrthod rheolaeth uniongyrchol o San Steffan er y byddai’n derbyn rheolaeth rannol.

“Unwaith eto, hoffwn wneud yn glir bod rheolaeth uniongyrchol o Lundain yn hollol annerbyniol,” meddai Colum Eastwood. “Nid hwn yw’r unig opsiwn, ac nid hwn yw’r opsiwn awtomatig.”

Anghydfod

Cefnodd Sinn Fein ar y cytundeb rhannu grym â’r DUP ym mis Ionawr, ac ers hynny mae Gogledd Iwerddon wedi bod heb Lywodraeth.

Hyd yma mae anghydfod dros sawl mater wedi rhwystro’r ddwy blaid rhag dod i gyfaddawd gan gynnwys yr iaith Wyddeleg a diwylliant.