Mae dynes wedi’i chael yn euog o annog ei darpar wr i ladd, ac o’i gynorthwyo’n ddiweddarach i gynllwynio ymosodiad brawychol trwy brynu cyllell a dol iddo ymarfer arni.

Fe glywodd rheithgor yn Llys y Goron Woolwich heddiw (dydd Iau) fod Madihah Taheer, 21, wedi annog Ummariyat Mirza gan ddweud wrtho bod ganddi restr o bobol yr oedd hi am iddo eu lladd ar ei rhan.

Ar y rhestr honno, roedd yna unigolyn yr oedd hi am iddo ei drywanu 27 o weithiau.

Roedd Ummariyat Mirza wedi cyfaddef i’r cyhuddiad o gynllwynio ymosodiad brawychol ac o fod â gwybodaeth yn ei feddiant a fyddai’n gymorth i derfysgwr.

Pan aeth plismyn i archwilio cartref y ddau yn Birmingham, fe ddaethon nhw o hyd i ddoli oedd yn farciau cyllell trosti. Yn ol Heddlu’r West Midlands, roedden nhw o’r farn bod y cyn-gyfrifydd, Ummariyat Mirza, yn cynllwynio ymosodiad brawychol.