Bydd cwmni technoleg Dyson yn ymddangos gerbron llys Ewropeaidd i ddadlau yn erbyn y broblem o labeli camarweiniol ar declynnau.

Gerbron Llys Cyfiawnder Ewrop ddydd Iau, bydd y Dyson yn dadlau yn benodol am wybodaeth sydd yn ymddangos ar declynnau sugno llwch – hwfers – cwmni Bosch Siemens.

Yn ôl Dyson dydy Bosch Siemens ddim yn egluro dan ba amgylchiadau cafodd eu hoffer eu profi, gan olygu bod y dyfeisiau yn ymddangos yn fwy effeithlon nag yr ydyn nhw mewn gwirionedd.

Mae rhiant gwmni Bosch Siemens – BSH Home Appliances – eisoes wedi cyhoeddi eu bod yn bwriadu paratoi ymateb cyfreithiol i honiadau Dyson.

Ers mis Medi 2014 mae pob hwfer yn yr Undeb Ewropeaidd wedi gorfod arddangos label sydd yn dweud pa mor effeithlon mae’r ddyfais o ran defnyddio egni.