Nick Clegg - ei sedd yn diflannu
Mae rhai o wleidyddion mwyaf blaenllaw Tŷ’r Cyffredin yn wynebu colli eu seddi wrth i nifer yr ASau yno gael eu lleihau o 650 i 600.

Bydd 10 o’r rheini’n mynd o Gymru, ond heddiw datgelodd Comisiwn Ffiniau Lloegr yr etholaethau fydd yn cael eu heffeithio.

Mae sedd Sheffield Hallam y Dirprwy Brif Weinidog, Nick Clegg, ymysg y rheini fydd yn diflannu o ganlyniad i’r newid ffiniau.

Bydd sedd y Canghellor George Osborne, Tatton yn Swydd Gaer, hefyd yn cael mynd.

Mae canghellor yr wrthblaid, Ed Balls, ac arweinydd Tŷ’r Cyffredin yr wrthblaid, Hillary Benn, hefyd yn wynebu colli eu hetholaethau nhw, Morley and Outwood a Leeds Central.

Bydd Comisiynau ffiniau Cymru a’r Alban yn datgelu eu cynlluniau nhw yn ddiweddarach eleni.

‘Tegwch’

Mae arweinydd y Blaid Lafur, Ed Miliband, eisoes wedi cyhuddo’r Ceidwadwyr o geisio newid y ffiniau etholiadol er eu budd eu hunain.

Dan y system newydd fe fydd pob etholaeth tua’r un maint, sef 70,000 o etholwyr yr un.

Yr unig etholaethau fydd yn cael aros fel y maen nhw yw Ynys Wyth, Na h-Eileanan ân Iâr, ac Ynysoedd Erch. Mae disgwyl i etholaeth Ynys Môn gael ei uno â Bangor.

Y Blaid Lafur fydd yn colli’r mwyaf o seddi, am mai nhw sy’n teyrnasu yn y rhan fwyaf o seddi trefol a dinesig, sy’n tueddu i fod yn llai nac etholaethau gwledig y Ceidwadwyr.

Ond mae Llywodraeth San Steffan wedi mynnu mai “cydraddoldeb a thegwch” sydd y tu ôl i’r penderfyniad.