Cafodd gyrrwr ei ladd ac aethpwyd a bachgen 11 oed i’r ysbyty ddoe wrth i weddillion y Corwynt Katia daro Prydain.

Capel Curig yng Nghymru oedd yn lle mwyaf gwyntog ym Mhrydain, sef 82mya yn ôl proffwydi’r tywydd.

Mae disgwyl i’r gwynt ostegu rywfaint heddiw ond mae yna sawl rhybudd am lifogydd yng Nghymru.

Yn ôl Asiantaeth yr Amgylchedd mae yna rybudd llifogydd ym Mhromenâd Abermaw ac eiddo o gwmpas yr Harbwr, a Heol Llywelyn a Heol y Llan.

Mae yna hefyd rybudd ar arfordir Ceredigion rhwng Bae Clarach i’r gogledd o Aberystwyth ac Aberteifi, ardaloedd ar hyd arfordir gorllewinol Ynys Môn, o Fae Cemlyn i Ynys Llanddwyn, ac ardaloedd ar hyd arfordir Gogledd Orllewin Cymru o Ddinas Dinlle i Abermaw.

Daw’r rhybuddion diweddaraf ar ôl i law trwm a gwyntoedd cryfion daro gogledd Cymru, gogledd Iwerddon, gogledd Lloegr a’r Alban ddoe.

Yn Swydd Durham cafodd gyrrwr ei ladd pan darodd coeden ei gar ar yr A688 yn Dunhouse Quarry, rhwng Staindrop a Barnard Castle.

Yn y cyfamser aethpwyd a bachgen 11 i’r ysbyty yn Bradford ar ôl iddo gael ei daro gan do chwythodd o garej.

Collodd tua 10,000 o dai yng ngogledd Lloegr drydan wrth i’r gwynt cryf effeithio ar linellau trydan.

Dywedodd gwasanaeth tân ac achub gorllewin Swydd Efrog eu bod nhw wedi achub yr hogyn o ganol y malurion yn Roper Lane, Queensbury.

“Mae’r gwyntoedd wedi gostegu rhywfaint drios nos a does dim disgwyl y byddwn nhw mor gryf ag oedden nhw ddoe,” meddai Steve Ellison, un o broffwydi tywydd MeteoGroup.

“Fe fydd heddiw yn ddiwrnod gwyntog arall ond ni fydd mor ddrwg â ddoe. Rydyn ni’n disgwyl gweld gwyntoedd yn cyrraedd 50mya, neu 60mya mewn rhai mannau.”