George Osborne - yn colli ei sedd
Mae cynlluniau i dorri nifer yr ASau yn San Steffan o 650 i 600 wedi cael eu cyhoeddi ar y we, cyn y cyhoeddiad swyddogol yfory.

Dan y cynlluniau fe fydd Cymru yn colli 10 Aelod Seneddol, gan dorri’r nifer i 30, a’r Alban yn colli saith, gan dorri’r nifer i 52.

Yfory fe fydd Comisiwn Ffiniau Lloegr yn cyhoeddi sut y bydd etholiadau yno yn cael eu heffeithio ond mae’r cynlluniau wedi cael eu cyhoeddi ar y we o flaen llaw ar ôl mynd i ddwylo blogwyr.

Bydd nifer yr ASau yn cael eu torri o 533 i 502 yn Lloegr erbyn yr Etholiad Cyffredinol yn 2015.

Llywodraeth San Steffan sydd wedi cyflwyno’r newidiadau er mwyn sicrhau nad yw etholaethau yn amrywio gormod mewn maint.

Yr unig etholaethau fydd yn cael aros fel y maen nhw yw Ynys Wyth, Na h-Eileanan ân Iâr, ac Ynysoedd Erch. Mae disgwyl i etholaeth Ynys Môn gael ei uno â Bangor.

Bydd seddi rhai enwau mawr yn diflannu os yw’r newidiadau yn mynd rhagddynt – gan gynnwys sedd Sheffield Hallam, etholaeth arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Nick Clegg.

Ymysg y Ceidwadwyr yr etholaeth fwyaf amlwg i ddiflannu yw Tatton yn Swydd Gaer, sef sedd y Canghellor, George Osborne.

Ond mae disgwyl mai’r Blaid Lafur fydd yn colli’r mwyaf o seddi, am mai nhw sy’n teyrnasu yn y rhan fwyaf o seddi trefol a dinesig, sy’n tueddu i fod yn llai nac etholaethau gwledig y Ceidwadwyr.

Bydd cynlluniau manwl ynglŷn â sut y bydd y newidiadau yn effeithio ar Gymru a’r Alban yn cael eu cyhoeddi yn ddiweddarach.