Dinas Llundain
Fe ddylai banciau Prydain gadw’r adrannau sy’n diogelu arian cwsmeriaid a’r adrannau sy’n buddsoddi arian ar wahân, yn ôl adroddiad un o gomisiynau’r llywodraeth.

Fe ddylai’r newidiadau gael eu gwneud erbyn 2019, mai’r Comisiwn ar Fancio.

Fe fydd y newid yn ei gwneud hi’n “haws ac yn llai costus adfer banciau sy’n mynd i drafferthion”, heb orfod dibynnu ar arian trethdalwyr.

Roedden nhw hefyd yn awgrymu fod banciau yn cadw rhagor o arian cyfalaf wrth gefn rhag ofn fod pethau’n mynd i chwith.

Dywedodd Syr John Vickers, un o awduron yr adroddiad, y bydd y newidiadau yn costio rhwng £4 a £7 biliwn i fanciau Prydain bob blwyddyn.

Ond fe fydd y newidiadau yn “golygu fod banciau 2019 yn gweithredu’n hollol wahanol i fanciau 2007,” ar drothwy’r argyfwng ariannol.

Dywedodd y Trysorlys fod yr adroddiad 363 tudalen yn un “nodedig” ac yn gam cyntaf pwysig tuag at ddiwygio’r system fancio.

Ond mae economegwyr ac arweinwyr busnes wedi rhybuddio y gallai’r newidiadau effeithio ar dwf yn economi Prydain.

Fe fyddai banciau yn ystyried gadael y Deyrnas Unedig ac yn codi rhagor ar gwsmeriaid er mwyn talu am y diwygiadau, medden nhw.

Rhybuddiodd Cymdeithas Banciau Prydain fod angen ystyried y diwygiadau a’u heffaith ar yr adferiad economaidd yn ofalus.

“Mae angen edrych arnyn nhw’n ofalus a’u cymharu â beth sy’n digwydd yn rhyngwladol,” meddai llefarydd ar eu rhan.