Ed Miliband
Fe ddylai bancwyr anghyfrifol gael eu gwahardd rhag gweithio, meddai’r arweinydd Llafur Ed Miliband.

Roedd angen i’r diwydiant gael cod disgyblu fel proffesiynau eraill, meddai y diwrnod cyn i’r Comisiwn Annibynnol ar Fancio gyhoeddi ei adroddiad ola’ ar ddiwygio’r sector.

Yn ei farn ef, fe ddylai bancwyr sy’n mentro’n ddiangen neu’n camwerthu gwasanaethau i gwsmeriaid gael eu hatal rhag gweithredu.

Diwygiadau mawr, meddai Cable

Ac mae’r Ysgrifennydd Busnes, Vince Cable, wedi rhybuddio’r sector ariannol i fod yn barod am ddiwygiadau sylfaenol.

Mewn erthygl ym mhapur y Wales on Sunday, fe ddywedodd bod yr adferiad economaidd yn dibynnu ar hynny.

Ond mae eraill yn awgrymu y gallai’r diwygiadau gael eu gohirio ac mae’r cwmnïau bancio eu hunain yn ceisio arafu’r broses neu ei hatal yn llwyr.

Un o’r diwygiadau tebygol fyddai gwahanu adain fenter pob banc oddi wrth y canghennau stryd fawr.

‘Ymddiried’

Fe ddylai bancio fod yn broffesiwn y mae pobl yn ymddiried ynddo,” meddai Ed Miliband. “Mae gan broffesiynau eraill – fel y gyfraith neu feddygaeth – godau diogelwch a threfn ddisgyblu.”

Ddylai pobol gyffredin ddim gorfod achub banciau fyth eto, meddai – fel a ddigwyddodd yn sgil y chwalfa yn 2008.