Protest ynghynt eleni yn erbyn toriadau
Mae arweinydd undeb mwya’ gwledydd Prydain wedi rhybuddio y bydd yna weithredu os bydd y Llywodraeth yn parhau i “ymosod” ar gyflogau, swyddi a phensiynau.

Yn ôl Len McCluskey, Ysgrifennydd Cyffredinol Unite, mae pobol gyffredin yn cael eu “cam-drin” gan y meistri ac fe fydd hynny’n arwain at “anesmwythyd cymdeithasol”.

Wrth i Gyngres yr Undebau Llafur, y TUC, ddechrau fory, fe fydd ei undeb yn arwain y galwadau am weithredu diwydiannol ar y cyd ymhlith gweithwyr y gwasanaethau cyhoeddus.

Ar ôl streiciau undydd yn gynharach eleni gan weision sifil ac athrawon, yn disgwyl yw y bydd gweithredu mwy eang fyth ym mis Tachwedd.

‘Cam-drin’

Fe ddywedodd Len McCluskey fod y Llywodraeth “difandad” a’r dosbarth llywodraethol “anwar” yn ymosod ar bopeth sy’n annwyl gan bobol gwledydd Prydain – “addysg i bawb, y Gwasanaeth Iechyd, swyddi a phensiynau deche a dyfodol i’n plant”.

“Mae’r ffaith fod y llawer sydd dan bwysau’n cael eu cam-drin gan yr ychydig cyfforddus, anghyffwrdd, yn creu rhwygiadau a dicter,” meddai. “Does ryfedd y bydd pobol y dosbarth gwaith yn cael eu gorfodi i sefyll ac amddiffyn eu haeddiant.”

Fe fydd Unite hefyd yn galw am fuddsoddi eang mewn cynlluniau isadeiledd er mwyn creu gwaith ac fe fydd Ysgrifennydd y TUC, Brendan Barber, yn mynnu bod y Llywodraeth yn cadw at eu bwriad i rannu’r banciau’n ddau – gan wahanu’r adrannau stryd fawr a’r adrannau buddsoddi.