Jim Murphy (Steve Punter CCA 2.0)
Mae Llafur yn yr Alban wedi pleidleisio tros wanhau eu cysylltiadau gyda’r blaid yn Llundain, gan gael ei harweinydd ei hun a rheolaeth lwyr tros faterion sydd wedi’u datganoli.

Fe bleidleisiodd Pwyllgor Gwaith y blaid Albanaidd o blaid y newid ond fe fydd rhaid iddo gael ei gymeradwyo hefyd gan Gynhadledd Brydeinig y Blaid Lafur ymhen pythefnos.

Yn ôl sylwebyddion yn yr Alban, y disgwyl yw y bydd yr arweinydd Llafur Prydeinig, Ed Miliband, yn fodlon caniatáu’r newid.

Ef oedd wedi comisiynu ymchwiliad ar ôl perfformiad gwael Llafur yn etholiadau Senedd yr Alban pan gafodd y blaid genedlaethol, yr SNP, fuddugoliaeth ysgubol.

Y newidiadau

Mae’r newidiadau’n cynnwys:

  • Ethol arweinydd Llafur i’r Alban am y tro cynta’, gan ddewis o blith aelodau o senedd yr Alban, San Steffan ac Ewrop.
  • Sefydlu canolfan newydd i’r blaid yng Nghaeredin.
  • Trefnu’r blaid yn yr Alban yn ôl etholaethau Holyrood yn hytrach na San Steffan.
  • Datganoli rheolaeth tros bob mater sydd wedi ei ddatganoli mewn llywodraeth.

‘Datganoli’r blaid’

“Bydd hyn yn troi’r Blaid Lafur Albanaidd yn Blaid Lafur yr Alban,” meddai Jim Murphy AS, cyn Ysgrifennydd yr Alban ac un o’r ddau a gynhaliodd yr ymchwiliad.

“Mae’r blaid wedi cyflwyno datganoli ond heb ddatganoli ei hun.”