Corwynt Katia
Mae disgwyl gwyntoedd cryf a llifogydd yng ngogledd Cymru ddechrau’r wythnos nesaf wrth i weddillion corwynt Katia groesi’r Iwerydd.

Fe fydd gwyntoedd o hyd at 70mya yn taro gogledd-orllewin yr Alban erbyn dydd Llun, a bydd gogledd Cymru, gogledd yr Alban a gogledd Lloegr hefyd yn dioddef.

Mae’r Swyddfa Dywydd eisoes wedi cyhoeddi rhybudd gan ddweud y dylai trigolion Cymru ‘fod yn ymwybodol’ o’r storm.

Maen nhw’n cynghori pobol yr Alban a Gogledd Iwerddon i ‘baratoi’ amdano.

Ond dywedodd arbenigwyr tywydd MeteoGroup ei fod yn rhy gynnar i broffwydo beth yn union fydd yr effaith ar dywydd y wlad.

“Mae’n debygol y bydd yn storm sylweddol ar gyfer canol mis Medi,” meddai Michael Dukes.

“Fe allai gwyntoedd 70mya wthio coed i lawr, achosi niwed mawr i adeiladau ac achosi oedi wrth deithio. Mae’n anochel hefyd y bydd yna berygl o lifogydd gan mai gweddillion storm drofannol yw hi.

“Mae’r corwynt yn symud yn araf ar hyn o bryd ac rydyn ni’n rhagweld y bydd beth sy’n weddill o’r storm yn taro gogledd-orllewin yr Alban ddydd Llun.

“Ond mae’n anodd proffwydo beth yn union fydd llwybr Katia ac fe allai newid dros y dyddiau nesaf.”

Fe fydd y gwyntoedd yn gostegu yn ystod yr wythnos ond fe fyddwn nhw’n parhau’n dymhestlog ym mhob cwr o’r wlad.

Katia yw ail gorwynt mawr y tymor ac roedd yn gorwynt categori pedwar ar un cyfnod. Pump yw’r categori uchaf.