Paddy Doherty neithiwr
Neithiwr cafodd y teithiwr Paddy Doherty ei goroni yn enillydd y fersiwn selebaidd o’r rhaglen realaeth Big Brother.

Caiff Doherty ei gyfri’n seleb ar gownt ei ymddangosiad yn y rhaglen deledu My Big Fat Gypsy Wedding.

A heddiw bydd cyfres newydd o Big Brother i bobol sy’ ddim yn selebs yn cychwyn ar Channel 5 – ond er hynny, mi fydd y seleb Pamela Anderson yn un o’r 15 ymgeisydd yn camu fewn i dŷ Big Brother.

Mae’r actors 44 oed fwyaf enwog am ei rhan yn Baywatch.

Yr efeilliaid pop Jedward oedd y ffefrynnau i gipio coron Celebrity Big Brother eleni, ond Paddy Doherty aeth â hi.

Ar ôl ennill roedd y cyn-baffiwr yn ei ddagrau ac yn cyfadde’ nad oedd wedi treulio mwy na phedair noson i ffwrdd o’i wraig cyn treulio tair wythnos yn nhŷ Big Brother.