Siambr Holyrood
Bydd deddfwriaeth newydd sy’n datganoli rhagor o rymoedd i’r Alban yn golygu fod trethi’n uwch yno nag unrhyw ran arall o’r Deyrnas Unedig, yn ôl cyn-Ysgrifennydd y wlad.

Mae cyn-Ysgrifennydd yr Alban, yr Arglwydd Forsyth, wedi galw ar y Llywodraeth i gynnal refferendwm cyn cyflwyno grymoedd Mesur yr Alban.

Mae’r ddeddfwriaeth yn caniatáu i Senedd yr Alban osod treth incwm, ond nid treth gorfforaethol a fydd yng ngafael Senedd San Steffan o hyd.

“Rydw i’n credu mai’r Llywodraeth yma yw’r unig un ar y blaned sy’n credu mai argyfwng ariannol yw’r amser cywir i godi trethi,” meddai’r Arglwydd Forsyth.

“Dyna a fydd yn digwydd o ganlyniad i’r mesur yma.”

Wfftiodd awgrym gan yr Arglwydd Wallace y gallai Llywodraeth yr Alban ddefnyddio’r mesur er mwyn gostwng trethi yn y wlad.

“Mae’n anodd credu, wrth edrych ar yr holl dda das y mae’r cenedlaetholwyr wedi eu darparu gan gynnwys presgripsiynau am ddim a thrafnidiaeth am ddim, na fydd trethi uwch yn yr Alban nag unrhyw ran arall o’r Deyrnas Unedig,” meddai.

“Dylid ystyried a fyddai yn ddoeth cynnal refferendwm ar y grymoedd rhain, os yw Llywodraeth yr Alban yn penderfynu gosod treth incwm uwch na gweddill y Deyrnas Unedig.”

Rhybuddiodd yr Arglwydd Lang, oedd yn Ysgrifennydd yr Alban rhwng 1990 a 1995, fod y mesur yn gam arall tuag at hollti’r Deyrnas Unedig.

Dywedodd fod angen “bod yn llymach” â’r Alban ac y dylai’r Llywodraeth dynnu’r mesur yn ôl a chyflwyno refferendwm ar annibyniaeth.

“Cam wrth gam rydyn ni’n agosáu at ddiwedd yr undeb,” meddai. “Beth am ddatrys y mater nawr, unwaith ac am byth.”