Mae tua 300,000 o yrwyr wedi derbyn pwyntiau cosb ar eu trwyddedau gyrru ar ran rhywun dros y degawd diwethaf, yn ôl arolwg a gyhoeddwyd heddiw.
Mae’r ymchwil hefyd yn dweud fod un ym mhob 20 gyrrwr yn fodlon cymryd pwyntiau ffrind neu berthynas.
Roedd dau ym mhob tri yn dweud y bydden nhw’n fodlon gwneud hynny i atal y gyrrwr arall rhag cael ei wahardd rhag gyrru.
Mae pobl sy’n goryrru yn derbyn rhwng tri i 12 pwynt, ac mae unrhyw un sydd â 12 pwynt yn cael ei wahardd rhag gyrru.
Mae yn erbyn y gyfraith i dderbyn pwyntiau gyrrwr arall, ac mae’r heddlu’n gobeithio y bydd camerâu cyflymder fideo newydd yn ei gwneud hi’n anoddach dweud celwydd ynglŷn â phwy sydd wrth y llyw.
Yn ôl yr arolwg ICM, roedd 1% o’r 2,031 o yrwyr a holwyd wedi cymryd pwyntiau gyrrwr arall ers 2001, sef dros 300,000 o yrwyr.
Cafodd yr ymchwil ei gomisiynu gan John O Roarke, rheolwr gyfarwyddwr yswiriant ceir LV.
“Mae cymryd pwyntiau rhywun arall yn drosedd llawer mwy difrifol nag y mae pobol yn ei sylweddoli, ac fe fydd yn llawer anoddach o ganlyniad i gamerâu cyflymder newydd,” meddai.