renin Arthur Pendragon (Sean Dempsey/PA Wire)
Mae derwydd wedi colli achos llys wrth geisio gorfodi gwyddonwyr i ddychwelyd cyrff hynafol i’w beddi ger Côr y Cewri.

Methodd y ‘Brenin’ Arthur Uther Pendragon, Pennaeth Cyngor Urdd y Derwyddon Prydeinig, argyhoeddi’r Uchel Lys i ymyrryd yn y ffrae.

Does dim cysylltiad rhwng y derwydd hwn a Gorsedd y Beirdd Cymru.

Roedd Arthur, cyn-filwyr 57 oed a newidiodd ei enw, eisiau i’r llys wrthdroi penderfyniad Llywodraeth San Steffan i ganiatáu i arbenigwyr gadw’r cyrff.

Gwrthododd yr Ustus Wyn Williams ei ddadl gan ddweud nad oedd digon o dystiolaeth fod y Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi gweithredu mewn modd afresymol.

Clywodd y barnwr fod olion amlosgiedig 40 o gyrff sy’n dyddio yn ôl 5000 o flynyddoedd wedi eu cymryd o Gôr y Cewri yn 2008.

Penderfynodd y Llywodraeth y dylai ymchwilwyr Prifysgol Sheffield gael cadw’r esgyrn nes 2015.

Dadleuodd Arthur, oedd wedi ei wisgo yn ei fantell wen, fod y cyrff yn perthyn i “sylfaenwyr y genedl yma”.

Dywedodd ei fod yn pryderu na fyddai’r cyrff byth yn cael eu dychwelyd, ac y bydden nhw’n treulio blynyddoedd mewn amgueddfa.

Yn dilyn y gwrandawiad galwodd am brotest yng Nghôr y Cewri ddydd Llun, tair blynedd i’r diwrnod ers i’r cyrff gael eu symud.