Tajikistan
Mae cyfreithiwr un o newyddiadurwr BBC, sydd ar brawf yn Nhajikistan dros honiadau o berthyn i grŵp radical Islamaidd, wedi dweud bod ei chleient wedi’i arteithio yn fuan wedi iddo gael ei ddal gan swyddogion ym mis Mehefin.

Dywedodd Fayzinisso Vokhidova fod swyddogion diogelwch wedi bwrw Uronboi Usmonov, sy’n newyddiadurwr â changen Canolbarth Asia’r BBC, ac wedi ei brocio â sigaréts ar ei arddwrn.

Dywedodd hefyd bod Uronboi Usmonov wedi ymatal rhag siarad am yr arteithio honedig cyn hyn am ei fod yn ofni y byddai’r cam-drin yn gwaethygu.

Doedd swyddogion diogelwch ddim ar gael i ymateb i’r honiadau ar unwaith.

Yn ôl y BBC, mae’r cyhuddiadau yn erbyn Uronboi Usmonov yn ddi-sail. Dywedodd y gorfforaeth ei fod wedi cwrdd ag aelodau grŵp Hizb ut-Tahrir er mwyn eu cyfweld.

Mae achos y newyddiadurwr wedi denu sylw rhyngwladol yn yr Unol Daleithiau, a’r Undeb Ewropeaidd.