David Cameron
Mae David Cameron wedi galw ar Muammar Gaddafi i roi’r ffidil yn y to er mwyn osgoi rhagor o dywallt gwaed ar strydoedd Tripoli.

Dywedodd y Prif Weinidog fod y wybodaeth oedd ganddo wrth law yn awgrymu fod y “mwyafrif llethol” o’r brifddinas bellach ym meddiant y gwrthryfelwyr.

Er nad oedd yna unrhyw gadarnhad ynglŷn â lle’r oedd Gaddafi yn cuddio, roedd dau o’i feibion wedi ildio i’r gwrthryfelwyr, meddai.

“Mae ei weinyddiaeth yn syrthio yn ddarnau,” meddai. “Rhaid i Gaddafi roi’r gorau i frwydro a dangos nad yw bellach yn ceisio rheoli Libya.

“Mae’r brwydro yn parhau a dydyn ni ddim am orffwys ar ein rhwydau,” meddai. “Rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi pobol Libya.

“Rhaid i’r newid i Libya ddemocrataidd a rhydd fod yn un sydd wedi ei arwain gan bobol Libya, ond gyda chefnogaeth ryngwladol y Cenhedloedd Unedig.

“Y flaenoriaeth yn amlwg yw sicrhau fod Tripoli yn le diogel.”

Ychwanegodd y byddai ei lywodraeth yn “sefydlu presenoldeb diplomyddol” yn Tripoli cyn gynted ag yr oedd yn saff i wneud hynny.

Fe allai Prydain fod yn “falch” o’r rhan y chwaraeodd hi wrth ddymchwel Gaddafi, meddai.

“Nid ein chwyldro ni oedd hwn ond rydyn ni’n falch ein bod ni wedi chwarae ein rhan,” meddai. “Fe fydd yna ddyddiau anodd o’n blaenau ni. Does yr un trawsnewid yn llyfn a hawdd.”