Senedd yr Alban
Mae polisi llywodraeth yr Alban o gynnig addysg prifysgol am ddim i fyfyrwyr o’r Alban – a chodi ffioedd ar fyfyrwyr o weddill Prydain – am gael ei herio yn y llysoedd.

Mae disgwyl y bydd y cyfreithiwr Phil Shiner, o’r cwmni Public Interest Lawyers, yn dadlau bod y polisi’n groes i reolau camwahaniaethu o dan Gonfensiwn Ewrop ar Hawliau Dynol, ac y gallai hefyd dorri Deddf Cydraddoldeb y Deyrnas Unedig.

O dan reolau’r Undeb Ewropeaidd does gan lywodraethau ddim hawl i wahaniaethu yn erbyn myfyrwyr o unrhyw wladwriaeth arall o’r Undeb.

Fodd bynnag, rhanbarth o fewn y Deyrnas Unedig yn hytrach nag gwladwriaeth o fewn yr Undeb Ewropeaidd yw’r Alban, a dadl llywodraeth yr Alban yw nad yw rheolau’r Undeb Ewropeaidd yn berthnasol i bolisïau gwahanol o fewn aelod-wladwriaethau.

‘Cyfreithlon’

Meddai llefarydd ar ran llywodraeth yr Alban:

“Rydym yn bendant fod y cynlluniau’n rhai cyfreithlon. Mae trefniadiau ffioedd dysgu’n seiliedig ar ‘breswylfan arferol’ ac nid cenedligrwydd.

“Mewn byd delfrydol, ni fyddai unrhyw fyfyrwyr yn talu ffioedd. Ein prif flaenoriaeth ni yw amddiffyn cyfleoedd i fyfyrwyr o’r Alban astudio yn sefydliadau’r Alban trwy gynnal addysg am ddim i’r gogledd o’r ffin.

“Wrth i lywodraeth Prydain gyflwyno ffioedd dysgu o hyd at £9,000 [yn Lloegr] fe fydd myfyrwyr o’r Alban sy’n astudio yn Lloegr yn dal i dderbyn cymorth ariannol yn ffurf bwrsariaethau a benthyciadau.”

Ychwanegodd y llefarydd nad oedd gan y llywodraeth hyd yma gofnod o dderbyn unrhyw ohebiaeth gan Phil Shiner ynghylch ei her.

Mae llywodraeth yr Alban hefyd yn chwilio am ffordd o godi ffioedd ar fyfyrwyr o weddill yr Undeb Ewropeaidd.

Un dewis sydd wedi cael ei awgrymu yw codi ‘tâl gwasanaeth’ tebyg i’r hyn sy’n cael ei wneud yn Iwerddon ar fyfyrwyr o wledydd eraill Ewrop.