Mae llywodraeth yr SNP yn yr Alban yn dweud y byddai’n glynu at y bunt Brydeinig yn hytrach nag ymuno â’r Ewro petai’r Alban yn ennill annibyniaeth.

Mae wedi cefnu ar ei syniad gwreiddiol o gael Alban annibynnol yn rhan o ardal yr Ewro ar ôl i Ganghellor yr Almaen, Angela Merkel, ac Arlywydd Ffrainc, Nicolas Sarkozy, gyhoeddi cynlluniau i gysoni trethi fel trethi corfforaethol.

Ym marn yr SNP, llywodraeth yr Alban ddylai gael y cyfrifoldeb am bwerau o’r fath.

Dywed ffynonellau o fewn yr SNP eu bod nhw hefyd wedi diystyru’r dewis arall o arian annibynnol i’r Alban, ac mai cadw’r bunt Brydeinig fyddai’r dewis ‘sefydlog’ ar gyfer Alban annibynnol.

Wrth i’r llywodraeth wynebu refferendwm ar annibyniaeth i’r Alban, mae pwysau wedi bod ar yr SNP i esbonio union statws gwladwriaeth newydd o’r fath.

“Mae cefnu ar ymaelodi â’r Ewro’n tanseilio’u strategaeth o annibyniaeth yn Ewrop,” meddai’r Aelod Seneddol Ewropeaidd Llafur, David Martin, wrth ymateb i ddatganiad y llywodraeth.