Mae’r cyn Brif weinidog, Tony Blair, wedi
Tony Blair
ddadl tros y terfysgoedd yn Lloegr, gan ddweud bod y dde a’r chwith yn anghywir.

Ac mae wedi rhoi cic i David Caameron a’i lywodraeth am feirniadu’r heddlu, trwy ddweud y dylai’r plismyn gael cefnogaeth gwleidyddion a’r cyhoedd fel ei gilydd.

Mewn erthygl ym mhapur newydd yr Observer, fe ddywedodd Tony Blair fod rhoi’r eglurhad anghywir am y terfysgoedd mewn peryg o gynnig yr atebion anghywir, creu argyfwng moesol diangen  a gwneud drwg i enw da gwledydd Prydain yn rhyngwladol.

Roedd yn dweud bod y dde’n anghywir yn dweud mai’r ateb oedd i bobol gymryd mwy o gyfrifoldeb a’r chwith yn anghywir yn beio tlodi cymdeithasol.

Dadnsoddiad Tony Blair

“Yr achos mawr yw’r grŵp o bobol ifanc sydd wedi eu dieithrio ac yn anfodlon ac sydd y tu allan i’r prif ffrwd ac sy’n byw mewn diwylliant sy’n groes i seiliau ymddygiad priodol,” meddai.

“Yr allweddi ddeall yw nad ydyn nhw’n symptom o gymdeithas yn fwy cyffredinol. Mae methu â deall hyn yn arwain at ddadansoddiad hollol anghywir o’r hyn sydd wedi digwydd. Dyw Prydain yn gyffredinol ddim yng ngafael unrhyw ‘ddirywiad moesol’ cyffredinol.

“Y gwir yw fod llawer o’r bobol hyn o deuluoedd sy’n wirioneddol aneffeithiol, yn gweithredu ar delerau cwbl wahanol i weddill cymdeithas, bod yn ddosbarth canol neu dlawd.”

‘Cyfrifoldeb’ meddai Cameron

Er hynny, mae’r Prif Weinidog presennol, David Cameron, wedi cadw at ei neges am gyfrifoldeb at gymdeithas.

Roedd y terfysgoedd yn arwydd “o broblem ddofn oedd wedi bod yn tyfu ers amser yn ein cymdeithas,” meddai yn y Sunday Express.

“Lleihad mewn cyfrifoldeb, twf mewn hunanoldeb, teimlad bod hawliau unigolion yn dod o flaen popeth arall.”