Alex Salmond
Ddwy flynedd ar ôl i fomiwr Lockerbie gael ei ryddhau o’r Alban am resymau iechyd, mae’r Llywodraeth yno’n dal i fynnu eu bod wedi gwneud y penderfyniad iawn.

Fe gfodd Abdelbasset al Megrahi ei anfon yn ôl i’w wlad union ddwy flynedd yn ôl wedi i Lywodraeth yr SNP dderbyn cyngor ei fod o fewn tri mis i farw o ganser.

Ac yntau’n fyw o hyd, mae rhai o berthnasau’r rhai a fu farw yn yr ymosodiad terfysgol yn 1988 yn hallt eu beirniadaeth o’r llywodraeth yng Nghaeredin.

Ond mae Prif Weinidog yr Alban, Alex Salmond, yn mynnu bod ei weinidogion wedi gwneud y penderfyniad cywir ar sail y gyfraith.

‘Cadarnhau’

Roedd dwy flynedd o holi ac ymchwilio wedi cadarnhau bod y penderfyniad yn briodol, meddai ddoe.

Ond, yn ôl papur y Scotsman, mae un gwleidydd Libyiaidd wedi galw am roi Abdelbasset al Megrahi ar brawf yn ei wlad ei hun.

Un amod o’i ryddhau oedd ei fod yn gollwng ei achos apêl yn erbyn ei ddedfryd am gyflawni’r bomio.