Y terfysg ym Mirmingham (Llun - Heddlu Gorllewin y Midlands)
Mae achos wedi ei ollwng yn erbyn dyn ifanc a gafodd ei gadw yn y ddalfa am naw niwrnod ar ôl y terfysgoedd ym Manceinion.

Er ei fod yn mynnu bod ganddo brawf ei fod yn rhywle arall, fe wrthodwyd mechnïaeth ddwywaith i Dane Williamson, 18 oed, o Stratford.

Ond ar ôl ail ymddangosiad llys ddydd Iau, fe gafodd glywed gan Wasanaeth Erlyn y Goron fod y cyhuddiad o achosi difrod troseddol yn ddi-hid o beryg i fywyd wedi ei ollwng.

Roedd wedi cael ei arestio ar ôl i heddlu feddwl eu bod wedi ei weld ar luniau teledu cylch cyfyng ond roedd Dane Williamson yn mynnu mai camgymeriad oedd hynny.

Difrod

Roedd y lluniau’n dangos torf o bobol yn ymosod ar siopau yn ardal Stryd y Farchnad ym Mancienion, gn gynnws gwneud mwy na £300,00 o difrod i siop Miss Selfridge.

Yn ôl y Gwasanaeth heddiw, roedd yr heddlu wedi dod o hyd i luniau teledu eraill oedd yn tanseilio’u hachos.

Fe allai’r cyhuddiad arwain at oes o garchar ac fe fydd yr achos yn codi rhagor o bryder am fyrbwylldra’r heddlu a’r llysoedd wrth ymdrin â’r terfysgoedd.

Arestio dyn arall am lofruddiaeth

Ond mae wythfed dyn wedi cael ei arestio ynglŷn â llofruddiaeth tri dyn yn ystod y terfysgoedd yn ardal Winson Green o Birmingham.

Mae pedwar dyn eisoes wedi eu cyhuddo o ladd y tri ar ôl eu taro gyda char.

Roedd y tri dyn Asiaidd wedi marw wrth geisio amddiffyn eiddo ynghanol y terfysgoedd.

Cyhoeddi lluniau

Yn Birmingham hefyd, mae’r heddlu wedi cyhoeddi lluniau teledu CCTV o derfysg yn y ddinas er mwyn cael help y cyhoedd i ddal y troseddwyr.

Yn ôl yr heddlu, roedd bomiau petrol wedi eu taflu at eu ceir a rhywrai wedi tanio gwn at eu hofrennydd.

Eu gobaith yw y bydd difrifoldeb y lluniau’n ysgogi pobol i gynnig gwybodaeth.