Canol Manceinion (M J Richardson CCA 2.0)
Mae arbenigwyr cyfreithiol yn rhybuddio y bydd llwyth o apeliadau’n digwydd yn erbyn cosbau sydd wedi eu rhoi yn sgil y terfysgoedd yn ninasoedd Lloegr.

Fe ddaw hynny ar ôl i fam ifanc o Fanceinion ennill ei hapêl hi yn erbyn dedfryd o bum mis o garchar ar ôl derbyn pâr o drowsus oedd wedi ei ddwyn gan rywun arall.

Yn ôl barnwr yn y llys apêl, roedd y ddedfryd yn anghywir “o ran egwyddor” ac fe newidiodd y gosb i 75 awr o waith di-dâl.

‘Rhagor o apeliadau’n sicr’

Mae nifer o gyfreithwyr a bargyfreithwyr wedi dweud wrth bapurau newydd y bydd llawer rhagor o apeliadau’n sicr o ddigwydd.

Yn ôl un bargyfreithiwr, mae rhai o’r dedfrydau wedi bod yn “hysterical” ac mae angen i’r system ddod yn ôl i drefn.

Eisoes, mae cyfreithiwr dau ddyn a gafodd bedair blynedd am ddefnyddio gwefan gymdeithasol i geisio annog terfysg wedi dweud y byddan nhw’n apelio.

Cefndir

Roedd Ursula Nevin, sy’n fam i ddau o blant bach, yn ei gwely pan ddigwyddodd terfysgoedd yng nghanol Manceinion.

Roedd menyw arall sy’n rhannu tŷ gyda hi wedi dwyn dillad ac wedi rhoi un pâr o drowsus i Ursula Nevin y bore wedyn.

Yn ôl y Barnwr Andrew Gilbert ddoe roedd rhoi carchar am hynny’n anghywir – fe ddywedodd nad oedd yn disgwyl y byddai’r wraig ifanc yn drafferth i’r heddlu fyth eto.

Roedd Ursula Nevin yn ei dagrau pan gafodd ei charcharu – roedd hi a’i theulu yn eu dagrau eto ddoe wrth iddi gael ei rhyddhau.