Liam Gallagher
Mae’r rocar Liam Gallagher yn mynd i gyfraith gan honni fod ei frawd mawr Noel wedi dweud “celwyddau” amdano.
Mi wylltiodd y canwr yn gacwn ar ôl darllen sylwadau Noel Gallagher fis diwetha’ oedd yn cynnwys y cyhuddiad fod Liam Gallagher wedi peidio â pherfformio mewn gŵyliau cerddorol mawr oherwydd fod ganddo ben mawr ar ôl yfed gormod o alcohol.
Nid yw hynny’n wir yn ôl Liam Gallagher, ac mae hefyd yn anghytuno gyda fersiwn ei frawd o sut y bu i’w band Oasis ddirwyn i ben.
Yn ôl Noel Gallagher roedd Liam eisiau manteisio ar daith Oasis i hyrwyddo ei gwmni gwneud dillad, Pretty Green.
Nawr mae’r brawd bach wedi mynd i gyfraith er mwyn i ddilynwyr Oasis “gael gwybod y gwir”.
“Mae yna sawl rheswm pam y bu i Oasis chwalu,” meddai Liam Gallagher, “a doedd fy nghwmni dillad i yn ddim oll i’w wneud â’r peth.”
Hen hanes
Daw’r brodyr Gallagher o Fanceinion, lle mae hen hanes o fandiau roc indi yn esgyn i frig y byd recordio cyn ffraeo a chwalu.
Aeth The Stone Roses yn ffliwt yn y 1990au gyda’r canwr Ian Brown a’r gitarydd John Squire wedi rhoi’r gorau i siarad gyda’i gilydd.
Yn gynharach yn y 1980au mi chwalodd The Smiths a bu ffrae fawr rhwng y ddau geffyl blaen, y gitarydd Johnny Marr a’r canwr Morrisey.
Erbyn heddiw mae The Smiths a The Stone Roses yn cael eu gweld fel bandiau seminal llawn tensiwn creadigol.