Jedward
Cafodd 11 o selebs eu hanfon i dŷ Big Brother neithiwr, wrth i’r rhaglen gael ei hatgyfodi ar Channel 5.
Tan y llynedd roedd Big Brother wedi mwynhau degawd di-dor ar Channel 4, gan ddenu miliynau o wylwyr ar ei hanterth.
Dros y blynyddoedd daeth y Cymry adnabyddus Imogen Thomas o Lanelli a Glyn Wise o Flaenau Ffestiniog i’r amlwg wrth gystadlu ar y rhaglen hon.
Ond does neb o Gymru ar y rhaglen eleni.
Y selebs:
Tara Reid – actores o America sy’n enwog am ei rhan yn y ffilm American Pie.
Sally Bercow – gwraig Llefarydd Tŷ’r Cyffredin, John Bercow.
Mae 30,000 o bobl yn darllen ei sylwadau ar twitter.
Jedward – efeilliaid o’r Iwerddon sy’n cyfrif fel un ymgeisydd ar y rhaglen. Daeth John ac Edward Grimes I’r amlwg ar raglan The X-Factor.
Kerry Katona – cyn-ganwr efo Atomic Kitten, sy’ wedi body n gaeth i gyffuriau caled.
Amy Childs – seren y rhaglen The Only Way Is Essex sy’n enwog am ei thriniaeth ‘vajazzle’.
Bobby Sabel – dyn del sy’ wedi modelu ym Milan, Efrog Newydd a Pharis. Efallai’r lleia’ adnabyddus o’r cwbwl lot.
Darryn Lyons – “Mr Paparazzi” sy’n berchen ar asiantaeth ffotograffi anferth.
Pamela Bach Hasselhoff – cyn-wraig David Hasselhoff o Baywatch.
Lucien Laviscount – actor ifanc golygus sy’ wedi modelu dillad David Beckham.
Paddy Doherty – Gwyddel ddaeth i’r amlwg ar My Big Fat Gypsy Wedding.