Ym mis  Gorffennaf mi fenthycodd Llywodraeth Prydain £20 miliwn, o gymhrau gyda £3.5 biliwn yn yr un mis y llynedd, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol.

Roedd hyn lawer iawn yn is na’r £2.5 biliwn yr oedd arbenigwyr yn y Ddinas wedi proffwydo.

Drwy godi lefi ar y banciau, daeth rhyw £660 miliwn i’r coffrau ym mis Gorffennaf, a chafwyd hwb pellach i bwrs y wlad wrth i mwy o dreth corfforaethol a Threth Ar Werth (VAT) gael ei dalu. Hefyd bu a llai o wario gan lywodraeth leol.