Mae nifer y bobol yng ngharchardai gwledydd Prydain wedi cynyddu o 700 yn ystod yr wythnos ddiwetha’, o ganlyniad i’r terfysgoedd yn ninasoedd Lloegr.

Mae pennaeth llywodraethwyr y carchardai’n rhybuddio mai dim ond gwerth pythefnos o lefydd gwag sydd ar ôl o dan yr amodau presennol.

Fe rybuddiodd Eoin McLennan-Murray, Cadeirydd Cymdeithas y Llywodraethwyr Carchar, y byddai problemau mawr os bydd agwedd galed y llysoedd yn parhau.

Erbyn hyn, mae cyfanswm y carcharorion wedi croesi 86,000 gyda thua 1,500 o lefydd gwag ar ôl.

Cadw rhagor yn y ddalfa

Fe ddangosodd ymchwil gan bapur newydd y Guardian fod dau o bob tri o’r bobol sy’n dod o flaen llys am gymryd rhan yn y terfysgoedd yn cael eu cadw yn y ddalfa – o’i gymharu â graddfa o un o bob deg fel rheol.

Mae’r dedfrydau sydd wedi eu rhoi hyd yn hyn hefyd yn drymach nag arfer ac mae hynny wedi cael ei feirniadu gan gyfreithwyr amlwg.

“Y pryder yw fod natur dedfrydu wedi newid,” meddai Eoin McLennan-Murray. “Os yw’r llysoedd yn parhau i fod yn llawdrwm gyda throseddau eraill ac yn fwy parod i ddefnyddio caarchar, fe fyddai hynny’n achosi trafferth yn y tymor hir.”