Mae disgwyl y bydd twf economaidd Prydain yn arafu ymhellach yn ail hanner y flwyddyn oherwydd yr argyfwng ariannol ym mharth yr ewro.

Datgelodd ffigyrau a gyhoeddwyd heddiw fod parth yr ewro yn ei gyfanrwydd wedi tyfu 0.2% yn unig yn yr ail chwarter eleni.

Roedd hynny’n bennaf oherwydd gwendid economi’r Almaen, a welodd dwf o 1.3% yn y chwarter cyntaf eleni ond dim ond 0.1% yn yr ail chwarter.

Roedd economïau’r 17 gwlad sy’n defnyddio’r ewro wedi tyfu 0.8% yn y chwarter cyntaf eleni. Mae economi’r Almaen yn cynrychioli 27% o allbwn parth yr ewro.

Mae economegwyr wedi rhybuddio y gallai economi Prydain arafu ymhellach yn y trydydd chwarter o ganlyniad i economi marwaidd gweddill Ewrop.

Tyfodd economi Prydain 0.2% yn unig yn yr ail chwarter o’i gymharu â 0.5% dros y tri mis cyn hynny.

Dywedodd Chris Williamson, prif economegydd Markit, fod gwendid parth yr ewro yn esbonio pam fod twf economi Prydain wedi arafu yn yr ail chwarter.

“Mae’n debygol y bydd y toriadau ariannol yn arwain at lai o alw o fewn Prydain yn ail hanner y flwyddyn,” meddai.

“Ond dyw’r galw am gynnyrch o dramor ddim am wneud yn iawn am hynny. Bydd twf economaidd Prydain yn araf ar y gorau nes bod busnesau a chwsmeriaid yn teimlo’n ragor hyderus.”

Mae yna ddyfalu fod y tsunami a’r daeargryn yn Japan wedi effeithio ar economi’r Almaen.

Roedd wedi gostwng y galw am fewnforio ac allforio o’r wlad, ac wedi effeithio ar benderfyniad y llywodraeth yno i gau wyth gorsaf niwclear.