Banc Lloegr
Cynyddodd chwyddiant ym Mhrydain mwy na’r disgwyl ym mis Gorffennaf, cyhoeddwyd heddiw.
Roedd chwyddiant yn 4.4% fis diwethaf – cynnydd o 0.2% ar fis Mehefin, yn ôl ffigyrau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Roedd economegwyr wedi disgwyl i chwyddiant godi 0.1% i 4.3%.
Dywedodd y swyddfa ystadegau gwladol fod y cynnydd yn adlewyrchu twf araf economi Prydain a’r cwymp mewn hyder economaidd.
Roedd costau nwyddau a gwasanaethau, rent, a thanwydd wedi gwthio chwyddiant i fyny, medden nhw.
Mae Banc Lloegr yn rhagweld y bydd chwyddiant yn cyrraedd 5% yn hwyrach ymlaen eleni cyn disgyn yn ôl i’r targed, sef 2%, o fewn y ddwy flynedd nesaf.
Fe allai chwyddiant fod yn broblem os yw’r banc yn teimlo fod angen argraffu rhagor o arian er mwyn ceisio rhoi hwb i’r economi.
Ond mae gobaith y gallai chwyddiant ostwng wrth i bris olew syrthio yn fyd-eang yr wythnos diwethaf.