Llwyfan olew Gannet Alpha
Mae cwmni olew Shell yn cael ei gyhuddo o guddio gwybodaeth am y llygredd olew gwaetha’ ym Môr y Gogledd ers mwy na deng mlynedd.

Dim ond ddoe y cyfaddefodd y cwmni bod mwy na 200 tunnell o olew wedi gollwng i’r dŵr ers i’r broblem ddechrau ddiwedd yr wythnos ddiwetha’.

Mae hynny’n fwy nag mewn unrhyw ddigwyddiad tebyg mewn mwy na degawd yn y moroedd o amgylch gwledydd Prydain.

Mae papurau newydd yr Alban yn dweud bod y cwmni’n gwrthod rhoi manylion am union le ac achos y llygredd sydd fwy na 100 milltir i’r dwyrain o Aberdeen ger llwyfan olew Gannet Alpha.

Gwrthod anfon llefarydd

Roedd y cwmni hefyd wedi gwrthod anfon llefarydd i gymryd rhan ym mhrif raglen newyddion y BBC yn y wlad.

“Cyfrifoldeb Shell yw rhoi gwybodaeth i’r cyhoedd, yn arbennig mewn argyfwng fel hyn,” meddai Juliet Swann, pennaeth ymgyrchu Cyfeillion y Ddaear yn yr Alban.

“Hira’ yn y byd y bydd rhaid i ni aros i gael clywed beth yn union sy’n digwydd, mwya’ yn y byd yw’r tebygrwydd na fyddwn ni fyth yn cael gwybod y gwir wrth i beiriant PR Shell gyflymu.”