Ceir
 Mae dosbarthwyr parseli wedi dod o hyd i ffordd newydd o osgoi problemau traffig canol Llundain. Maen nhw bellach yn anfon rhedwyr allan i fynd â’r pecynnau o le i le.

Mae Addison Lee, ynghyd â chwmni dillad chwaraeon Asics, wedi cyflogi 20 o athletwyr i redeg strydoedd Llundain ar ran y cwmni cwrier ar droed.

“Mae hwn yn syniad gwych, yn ogystal â bod yn ffordd werdd iawn o gael y gorau ar draffig Llundain,” meddai Tim Don, athletwr sy’n arbenigo yn y triathlon.

Fe fydd tua 75% o elw’r gwaith yn cael ei roi yng nghoffrau elusen y Groes Goch.