Terfysg Llundain
 Mae dyn 22 oed wedi ei arestio mewn cysylltiad â llofruddiaeth pensiynwr 68 oed oedd yn ceisio diffodd tân yn ystod y terfysg ar strydoedd Llundain.

 Bu farw Richard Mannington Bowes yn yr ysbyty neithiwr yn dilyn ymosodiad arno yn Ealing yng ngorllewin Llundain ddydd Llun.

Roedd y dyn 22 oed yn cael ei ddal ar amheuaeth o lofruddio, creu terfysg a dwyn, yn ôl Scotland Yard.

Mi ddiofeddodd Mr Bowes anafiadau difrifol I’w ben a bu’n rhaid iddo gael cymroth peiriant I’w gadw’n fyw yn dilyn yr ymosodiad.

Yn ôl tyst roedd terfysgwyr wedi ymosod ar y pensiynwr wrth iddo geisio diffodd tân oedd wedi ei gynnau mewn bin archfarchnad ger canolfan siopa.